Llwybr Lefel 2 Pobydd
Mae llwybr Lefel 2 Pobydd ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn prosesau pobi a rolau cynhyrchu, a chynhyrchu melysion a chacennau, neu gefnogi gwerthiant/gwasanaeth mewn sefydliad pobi neu weithgynhyrchu.
Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain yr adolygiad o'r Brentisiaeth hon wedi argymell y dylid datblygu manyleb cymhwyster prentisiaeth newydd sbon i gyflawni'r gofynion technegol ar gyfer galwedigaethau pobydd yn Lefel 2.
I grynhoi, bydd y fanyleb yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gyflawni unedau cymhwyster sy'n sicrhau o leiaf 14 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol fel a ganlyn:
- 3 o Grŵp Gorfodol A
 - O leiaf 6 o Grŵp B Sector Pobydd
 - O leiaf 3 uned wybodaeth sylfaenol o Grŵp D
 - Gellir cymryd gweddill yr unedau o Grwpiau Dewisol B, C neu D
 
Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.
Nodwch: dim ond yn Saesneg y cyflwynir teitlau a chynnwys yr unedau sy'n gysylltiedig â nhw gan mai dim ond yn yr iaith honno y maen nhw ar gael.
Grŵp Gorfodol A
| Teitl | 
| Maintain workplace food safety standards in food and drink operations | 
| Work safely in food manufacture | 
| Principles of HACCP based food safety systems | 
- Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?